Rhyddhawyd bron i 26,000 o apwyntiadau meddygon teulu ym mis Chwefror yn unig, gan ddiolch i wasanaeth digidol sydd ar gael i bob fferyllfa ledled Cymru.
Mae’r Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau i gleifion ledled Cymru a’i nod yw rhyddhau apwyntiadau meddyg teulu i bobl ag anghenion mwy cymhleth. O dan y cynllun, gellir cynnig triniaeth a chyngor am ddim ar gyfer 27 o gyflyrau cyffredin gan gynnwys dolur gwddf, colig a brech yr ieir.
Mae'n rhan o wasanaeth ehangach Dewis Fferyllfa - cymhwysiad digidol a ddatblygwyd
gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC) sy'n galluogi fferyllwyr i gael
mynediad at gofnodion meddygol cryno cleifion a rhannu manylion ymgynghoriadau
fferylliaeth â meddygon teulu cleifion yn ddigidol.
|