Neges gan y Prif Swyddog Nyrsio
Fel y Prif Swyddog Nyrsio, rwy'n falch iawn o weld y cynnydd ar draws GIG Cymru o ran cefnogi dull digidol cenedlaethol o gynnal asesiadau nyrsio cleifion mewnol.
Mae hwn wedi bod yn ddull mor gadarnhaol a rhagweithiol o weithredu ar gyfer Cymru Gyfan. Edrychaf ymlaen at weld y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau sy'n weddill yn gweithredu Cofnod Gofal Nyrsio Cymru (WNCR) a bod y gwasanaeth hwn yn cael ei ystyried yn fusnes fel arfer. Bydd yn dipyn o gyflawniad ac yn un i'w ddathlu.
Rwy’n gwybod bod y tîm yn parhau i weithio ar safoni dogfennau ymhellach ac rwy'n ddiolchgar i bawb sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn. Mae'r gwaith hwn yn bwysig iawn a bydd yn gwella ansawdd y gwasanaethau a ddarperir. Bydd data asesu ar gael ar draws y system gofal iechyd. Bydd hyn yn cefnogi gwneud penderfyniadau gwell ac ansawdd gofal gwell i gleifion yn y pen draw. Cymaint o gyfleoedd i’w harchwilio wrth inni ei alinio â’r system ddigidol nyrsio ehangach.
Mae technoleg ddigidol wedi bod yn allweddol i'r ffordd rydym wedi ymateb i'r pandemig. Ac oherwydd y cyflymder o ran hyn, rydym mewn sefyllfa ddelfrydol fel arweinwyr yn y maes hwn i'n proffesiwn ddylanwadu ar y blaenoriaethau.
Gan ein bod bellach yn y drydedd flwyddyn lle’r ydym yn delio â'r effaith ryfeddol y mae'r pandemig yn parhau i'w chael ar draws y system ac, yn wir, ar ein bywydau, yr wyf mor ddiolchgar i bawb sydd wedi bod yn ymwneud â chefnogi cyflwyno'r WNCR ac sydd wedi gwneud cofnodion nyrsio digidol yn realiti.
Roeddwn yn falch iawn o fod wedi cael cyfle i weld hyn yn "fyw" yng Nghwm Taf yn ddiweddar ac rwy’n ddiolchgar i Christian Smith am yr arddangosiad. Mae brwdfrydedd y rhai sy'n defnyddio'r system yn heintus.
Mae cael dull cenedlaethol o ddigido cofnodion nyrsio yn amhrisiadwy, yn yr un ffordd ag y mae cael cynllun datblygu clir ar gyfer ein gweithlu nyrsio a bydwreigiaeth mewn sgiliau digidol arbenigol a rolau gwybodeg glinigol.
Mae gan y blaenoriaethau hyn fy nghefnogaeth a'm hymrwymiad llawn fel Prif Swyddog Nyrsio. Diolch i chi i gyd am bopeth rydych wedi'i wneud ac yn parhau i'w wneud yn gyflym ac edrychaf ymlaen at lwyddiant parhaus y gwaith hwn.
Sue Tranka
Prif Swyddog Nyrsio
Llywodraeth Cymru / Welsh Government